Mae Marchnad Bysgod Jonah’s yn cael ei rhedeg gan Craig a Rhiannon Edwards, pȃr priod ifanc lleol. Mae’r ddau ohonynt yn frwd iawn dros baratoi pysgod a bwyd môr ffres ar gyfer eu cwsmeriaid. Gellir prynu amrywiaeth gwych o bysgod yn y farchnad ac mae’r staff yn fodlon iawn i roi cyngor ynghylch paratoi a choginio’r bwyd. Cewch groeso cynnes a chroesewir eich atborth bob amser.