Manylion cludo a chostau:

Cludo            

CLUDO YN RHAD AC AM DDIM i ardaloedd lleol Aberystwyth (SY23, SY24, SY25 a chodau post SA48 a’r cyffiniau). I gael hyn mae angen lleiafswm gwario o £15; ychwanegir cost cludo o £3 os yw’n llai.

Rhaid derbyn archebion erbyn 12 pm y diwrnod blaenorol.

Mae Marchnad Bysgod Jonah’s yn cydweithio ȃ Chigyddion Rob Rattray ac anfonir y cludiad naill ai gan ein fan tymheredd rheweiddiedig neu gan faniau Rob Rattray. Gellwch archebu cig yma: https://robrattray.co.uk/

 

Dyma’r ardaloedd cludo:

Mercher: Machynlleth/Pontarfynach/Aberaeron

Iau: Ardal Aberystwyth hyd at Benrhyn-coch a’r cyffiniau

Gwener: Ponterwyd/Pontarfynach/Llanfihangel-y-creuddyn/Trawsgoed/Llanilar/Llangwyryfon

 

Costau cludiant:

Cludiad lleol (SY23, SY24, SY25 ac SA48) Yn rhad ac am ddim. Lleiafswm gwerthiant £15

Cludiad Negesydd ar archebion hyd at £50:  £10.00

Cludiad Negesydd dros £50:  Am ddim

 

Cludiadau i’r cartref — Blychau Pysgod

Gan fod ein blychau pysgod wedi’u rhewi gallwn eu hanfon ledled y DU, ac eithrio Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, Ynys Wyth, Ynys Manaw, Ynysoedd Sili, holl Ynysoedd yr Alban, yr Ucheldir ac i’r Gogledd o Falkirk.

Rydym yn derbyn y pysgod gorau , yn gwirio’u hansawdd ac yna yn eu rhewi. Yna, paciwn ein blychau gyda phecyn gel rhewiedig sy’n ein galluogi i anfon y cyfan drwy law ein negesyddion ledled y DU. Mae hyn hefyd yn gyfleus i chi gan y gellwch ei roi yn syth yn y rhewgell a’i ddefnyddio yn ôl y galw!

Mae gennym gwmni cludo hynod ddibynadwy yn bartner i ni. Ar adegau prin iawn, gall yr amser cludo ymestyn hyd at 6pm, ond eithriad yw hynny. Dylai’r rheini ȃ chodau post mwy diarffordd ofyn am opsiynau cludo. Fel arfer, disgwylir i’r sawl sy’n derbyn pecyn o bysgod lofnodi. Os na fyddwch adref i dderbyn y cludiad gadewch gyfarwyddyd eglur i’r gyrrwr yn y blwch ‘Cyfarwyddyd Cludiad’ wrth archebu. Os na chaiff y negesydd ateb, fe wnaiff ei orau i’w adael yng nghartref cymydog (oni nodir yn wahanol yn eich archeb). Oni ellwch dderbyn y cludiad eich hun neu os nad ydych wedi gadael cyfarwyddyd i’r negesydd neu os na ellir gadael y pecyn gyda chymydog neu os tybia’r negesydd mai anaddas fyddai gadael y pecyn, eich cyfrifoldeb chi fydd casglu’r cludiad o’r depo lleol. Os oes gan y negesydd amser, fe all y gellir cludo’r pecyn atoch drannoeth. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gludiadau na lofnodwyd amdanynt neu am archebion a ail-gludir.

Nodwch, os gwelwch yn dda, ein bod yn cyflenwi pysgod ffres. Os na fydd pysgod ffres ar gael byddwn yn anfon pysgod ffres rhewiedig.